Josei manga gan Yun Kōga ydy Loveless (ラブレス Raburesu) sy'n gyfres o storiau diddiwedd. Cafodd ei gyhoeddi'n gyntaf mewn cylchgrawn o Japan o'r enw Zero Sum gan Ichijinsha ac mewn sawl tankōbon. Mae Kōga yn bwriadu dod a'r manga i ben ar ôl 15 cyfrol.[1]
Cafodd cyfres deledu ei darlledu rhwng Ebrill a Mehefin 2005 gan J.C. Staff ar TV Ashai. Yn yr USA, cafodd ei darlledu gan Media Blaster mewn set o 3 DVD yn 2006.
Mae gan y cymeriadau agweddau corfforol fel cathod, (kemonomimi): clustiau hir a chynffonau a cheir cathferched a chathfechgyn. Mae'r nodweddion corfforol hyn yn diflannu pan mae'r cymeriad yn colli ei morwyndod ac mae'r cymeriad yn troi'n oedolyn.